Adroddiad Blynyddol y Grŵp Trawsbleidiol.

2013-2014

Y Grŵp Trawsbleidiol ar Fenywod yn yr Economi

Datganiad gan y Cadeirydd

 

Rwy’n ddiolchgar i aelodau’r Grŵp Trawsbleidiol am fy ethol fel eu Cadeirydd cyntaf, ac am eu cyfranogiad brwd i drafodaethau’r Grŵp. Rydym wedi ystyried pynciau amrywiol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ac mae ein trafodaethau wedi rhoi dirnadaethau newydd a gwahanol i faterion fel cyflogau cyfartal a rhwystrau i lwyddiant. Hoffwn ddiolch yn arbennig i’r tîm yn Chwarae Teg am eu gwaith wrth gynorthwyo i drefnu ein cyfarfodydd.

 

Christine Chapman AC

 

1.    Aelodaeth y Grŵp a deiliaid swyddi.

 

Christine Chapman AC (Cadeirydd)

Jocelyn Davies AC

Janet Finch-Saunders AC

Eluned Parrott AC

Dr Victoria Winckler, Sefydliad Bevan;

Dr Alison Parken, Prifysgol Caerdydd

Shirley Rogers, Gyrfa Cymru

Joy Kent, Chwarae Teg

Christine O’Byrne (Chwarae Teg)

Dr Rachel Bowen, Ffederasiwn y Busnesau Bach

Helen Humphrey, Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru

 

2.    Cyfarfodydd Blaenorol y Grŵp ers y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol diwethaf.

 

Cyfarfod 1.

 

Dyddiad y cyfarfod:        23 Hydref 2013

Yn bresennol:        Christine Chapman AC,  Llafur (Cadeirydd)

Jocelyn Davies AC, Plaid Cymru

Janet Finch-Saunders AC, Ceidwadwyr

Eluned Parrott AC (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru)

Laura Dunn, swyddfa Rosemary Butler AC

Victoria Evans, Swyddfa Christine Chapman AC

Ian Johnson, Plaid Cymru

Osian Lewis, Swyddfa Alun Ffred Jones AC

Dr Rachel Bowen, Rheolwr Polisi Cymru, Ffederasiwn y Busnesau Bach

Joy Kent, Prif Weithredwr, Chwarae Teg

Christine O’Byrne, Rheolwr Polisi a Materion Cyhoeddus, Chwarae Teg (Ysgrifennydd)

Helen Reed, Swyddog Cefnogi Polisi, Chwarae Teg

Shirley Rogers, Cyfarwyddwr Rhanbarthol, Gyrfa Cymru

 

 

Crynodeb o’r materion a drafodwyd:

Rhannwyd y prif ganfyddiadau o waith ymchwil gan Chwarae Teg, "Lle y Fenyw", a thrafodwyd hwy, gan gynnwys:

·         Mae anghydraddoldeb y tu allan i’r gweithle yn creu anghydraddoldeb o fewn iddo.

·         Mae stereoteipiau pwerus yn parhau o ran swyddi priodol ar gyfer dynion a menywod.

·         Cyflogaeth yw’r norm i fenywod, ond eto nid ydym wedi cyflawni cydraddoldeb.

·         Mae rhagor o fenywod yn gweithio, ond yn gweithio rhan-amser.

·         Mae’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn parhau.

·         O ran sgiliau a chynnydd, mae merched yn perfformio’n well na bechgyn yn yr ysgol ac mae rhagor o fenywod wedi cymhwyso i lefel 4 yng Nghymru, ond eto mae menywod yn dal i grynhoi mewn swyddi sy’n gofyn am lai o sgiliau ac sy’n talu cyflogau isel.

·         Parheir i ystyried menywod yn ofalwyr yn gyntaf ac yn enillwyr yn ail, ac er bod rhagor o gyfleoedd i weithio’n hyblyg, mae’r diffyg gofal plant fforddiadwy yn dal i gael ei ystyried fel y rhwystr mawr i gyflogaeth lawn-amser.

·         Yn nodedig, ymddengys nad oedd 25% o’r menywod a holwyd yn cael arfer eu hawliau statudol, ac ymddengys nad oedd 15% o gyflogwyr wedi bodloni eu cyfrifoldebau statudol.

 

Cyfarfod 2.

 

Dyddiad cyfarfod: 5 Chwefror 2014

Yn bresennol:        Christine Chapman AC, (Cadeirydd)

Mohammad Asghar AC

Julie Morgan AC

Joyce Watson AC

Laura Dunn, swyddfa Rosemary Butler AC

Robin Lewis - Swyddfa Christine Chapman AC

Sian Mule, swyddfa Julie Morgan AC

Neil Ronconi-Woollard, swyddfa Julie James AC

Elizabeth Laird – Ymchwilydd i David Melding AC

Joy Kent, Prif Weithredwr, Chwarae Teg

Christine O’Byrne, Rheolwr Polisi ac Ymchwil, Chwarae Teg

Anne Howells, Cydgysylltydd Polisi, Chwarae Teg

Dr. Alison Parken, Uwch Gymrawd Ymchwil, Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd

Emma Richards, Chwarae Teg

Alison Howe, Cynghorydd Gyrfaoedd, Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu

Kate Attwood, Hyrwyddwr Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu

Emma Saunders, Suterra

Alex Tranter, Tai Ceredigion

Dr Rachel Bowen, Ffederasiwn y Busnesau Bach

Nina Prosser, Ymddiriedolaeth y Tywysog

Hannah Blythyn, Unite 

Belinda Robertson, Unite

Rebecca Newsome, Ymddiriedolaeth y Tywysog

Helen Humphrey, Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru

Rachel Maude, BT

Catrin Owen, Tai Ceredigion

Charlotte James- Prifysgol Abertawe

Shirley Rogers, Gyrfa Cymru

 

 

Crynodeb o’r materion a drafodwyd:

 

Y pwnc ar gyfer y cyfarfod hwn oedd arwahanu ar sail rhyw a chyflog cyfartal.

 

Y siaradwyr gwadd oedd Dr Alison Parken, Emma Richards, Alison Howe, Kate Atwood, Emma Whitworth ac Alex Tranter.

 

Nodwyd yn ystod y drafodaeth:

·         Bod angen gwell dealltwriaeth o ran pam nad yw menywod yn dod i weithio ym maes diwydiant/ am gael eu dyrchafu.

·         Y gellid cael un man penodol ar gyfer cael gwybodaeth am gydraddoldeb rhywiol yng Nghymru.

·         Mae cyflogau isel mewn rolau rhan-amser yn ffactor sy’n cyfrannu at dlodi mewn gwaith.

·         Ni fydd y cyflog byw yn gwneud llawer o wahaniaeth.

·         Mae credyd cynhwysol yn broblem hefyd.

·         A fyddai modd sicrhau telerau ac amodau gwell drwy gaffael?

·         Prif ffrydio ymwybyddiaeth o gydraddoldeb rhwng y rhywiau i hyfforddiant athrawon, y gwasanaeth gyrfaoedd ac ati, a sicrhau y caiff y gweithwyr hyn eu datblygu’n barhaus yn eu proffesiynau.

·         Dylai gofalu, a materion o ran gweithio’n rhan amser gynnwys ac ystyried gofalu am aelodau hŷn yn y teulu hefyd.

·         A fyddai’n bosibl cyfeirio doniau sydd ar gael yng Nghymru, yn hytrach na dod a gweithwyr o’r tu allan?

·         Mae angen dull gweithredu holistaidd o ran prentisiaethau, tiwtoriaid a mentoriaid benywaidd.

Hefyd, cytunodd y grŵp ar gamau gweithredu ar gyfer Llywodraeth Cymru:

 

Cyfarfod 3.

 

Dyddiad cyfarfod: 4 Mehefin 2014

 

Yn bresennol:        Christine Chapman AC, (Cadeirydd)

Jocelyn Davies AC

Julie James AC

Ioan Bellin, Swyddfa Simon Thomas AC

Laura Dunn, swyddfa Rosemary Butler AC

Robin Lewis - Swyddfa Christine Chapman AC

Mark Major, Swyddfa Suzy Davies AC

Neil Roncon-Woodward, swyddfa Julie James AC

Katy Chamberlain, Business in Focus

Natasha Davies, Chwarae Teg

Ruth Davies, Iechyd Cyhoeddus Cymru

Rhiannon Hedge, Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr

Anne Howells, Chwarae Teg

Helen Humphrey, Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru

Norma Jarboe, Mae Menywod yn Cyfrif

Dr Barrie Kennard, Arweinyddiaeth a Rheolaeth Cymru

Joy Kent, Chwarae Teg

Yr Athro April McMahon, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth

Alison Parken, WAVE (Menywod yn Ychwanegu Gwerth at yr Economi) Prifysgol Caerdydd

Amy Preece, Menywod yn Gwneud Gwahaniaeth

Nina Prosser, Ymddiriedolaeth y Tywysog

Kieron Rees, Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr

Jessica Rumble, Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr

Beth Titley, Gyrfa Cymru

 

 

Crynodeb o’r materion a drafodwyd:

Y pwnc ar gyfer y cyfarfod hwn oedd arweinyddiaeth a chynnydd.

 

Y siaradwyr gwadd oedd: Dr Barrie Kennard, Rhiannon Hedge, Joy Kent, Helen Humphrey ac April McMahon.

 

Nodwyd yn ystod y drafodaeth:

·         Bod angen mynd i’r afael â diffyg hyder, a pherthynas hyn â dyrchafiadau.

·         Rhagfarn anymwybodol, a bod angen i rai sy’n cyfweld sefyll y prawf cyn cynnal cyfweliadau.

·         Er bod cwotâu yn amhoblogaidd, efallai bod eu hangen arnom fel mesur dros dro, nes y bydd gennym feritocratiaeth.

·         Mae angen gofyn i’r sector preifat wneud yr un fath â’r sector cyhoeddus.

·         Angen mynd i’r afael â’r mater o gynnydd mewn gwaith rhan-amser.

·         Gall y defnydd o iaith fod yn rhwystr a pheri bod swyddi yn ymddangos yn wrywaidd.

·         A oes angen gair gwahanol ar gyfer cwotâu? “Cynrychiolaeth deg” o bosibl.

·         Mae adroddiad yr Arglwydd Davies yn defnyddio iaith nodau uchelgeisiol, ac yn gosod nodau ar gyfer amrywiaeth. Mae angen hyrwyddwr a dulliau meincnodi tryloyw.

·         Mae ofn na fydd amrywiaeth yn dilyn, oni bai ein bod yn mynd i’r afael â materion amrywiaeth yn ehangach, yn ogystal â materion rhyw.

·         Mae dyletswydd i ryddhau ystadegau am faterion rhywedd a materion amrywiaeth eraill.

·         Beth a gawn gan y prif gyflogwyr yng Nghymru? Sut y dylem gael y prif gyflogwyr o’n plaid? E.e. Admiral.

·         Mae’n bwysig bod y Grŵp Trawsbleidiol yn cyfrannu at faniffestos y pleidiau.

 

Hefyd, cytunodd y grŵp ar gamau gweithredu ar gyfer Llywodraeth Cymru:

  1. Lobïwyr proffesiynol, cyrff gwirfoddol ac elusennau y mae’r Grŵp wedi cwrdd â hwy yn ystod y flwyddyn flaenorol.

 

 CITB,  SgiliauAdeiladu, Unedau 4 a 5, Canolfan Fusnes Pen-y-bont ar Ogwr, Stryd David, Ystâd Ddiwydiannol Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 3SH

Tai Ceredigion Cyf, Uned 4, Parc Busnes Pont Steffan, Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion,
 SA48 7HH

Ymddiriedolaeth y Tywysog,  Ocean Way, Caerdydd

Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru (WEN), Llys Angor, Heol Keen, Caerdydd, CF24 5JW


 

Mae’r sefydliadau hyn wedi cymryd rhan yng nghyfarfodydd y grŵp drwy gydol y flwyddyn.

 



 


 

 


Datganiad Ariannol Blynyddol.

2013-2014

Y Grŵp Trawsbleidiol ar Fenywod yn yr Economi

Christine Chapman AC

Christine O’Byrne (Chwarae Teg)

Treuliau’r Grŵp.

 

Dim.

£0.00

Costau'r holl nwyddau.

 

Dim nwyddau wedi’u prynu.

£0.00

Budd-daliadau a dderbyniwyd gan y grŵp neu gan Aelodau unigol o gyrff allanol.

 

Ni chafwyd budd-daliadau.

£0.00

Unrhyw gefnogaeth i’r ysgrifenyddiaeth neu gymorth arall.

 

Ni chafwyd cefnogaeth ariannol.

£0.00

Gwasanaethau a ddarperir i’r Grŵp, fel lletygarwch.

 

Talwyd am y lluniaeth a’r cyfleusterau cyfieithu gan Chwarae Teg.

 

Dyddiad   

Disgrifiad ac enw’r darparwr

 

Cost

 

Arlwyo

Gwasanaeth Arlwyo Charlton House

£404.82

 

Cyfieithu

Testun

£504.38

Cyfanswm costau

 

£909.20